![]() ![]() |
|||||
![]() |
![]() |
![]() |
![]() |
![]() |
![]() |
| Ynghylch ATLIS Nodau Mae mwy na thri deg pump o lyfrgelloedd o fewn Dinas a Sir Abertawe. Mae'r rhain yn cynnwys Llyfrgelloedd Abertawe, llyfrgelloedd Prifysgol Cymru Abertawe, Athrofa Addysg Uwch Abertawe, Coleg Abertawe a Choleg Gorseinon, yn ogystal â sawl llyfrgell ar gyfer gweithwyr iechyd proffesiynol. Mae Llyfrgell a Gwasanaeth Gwybodaeth Castell-nedd Port Talbot yn cynnwys Coleg Castell-nedd Port Talbot yn ogystal â Llyfrgell Fenthyg a Chyfeirio Castell-nedd Port Talbot, Llyfrgell Iau Castell-nedd, Llyfrgell Port Talbot ac un ar bymtheg llyfrgell gangen. Manteision i chi Bydd eich cyfleoedd dysgu gydol oes yn cael eu gwella a'u cefnogi. Cewch wybodaeth ar flaenau'ch bysedd ynghylch sut i chwilio am adnoddau yn ardal Bae Abertawe. Manteision gwasanaethau llyfrgell lleol Ceir cysylltiadau â mentrau lleol hefyd fel Dinas a Sir o Ddysg, yn ogystal â datblygiadau cenedlaethol fel Amcan Un. Hefyd ceir cyfle i wneud cynigion ar y cyd am arian allanol ar gyfer prosiectau ar y cyd. Cysylltu â Gwefeistr |